Equity yn Lansio Rhwydwaith Gymraeg i Gefnogi Aelodau sy'n gweithio yn Gymraeg.
Mae Equity yn falch o gyhoeddi lansiad Rhwydwaith Gymraeg Equity. Mae’r rhwydwaith yn ofod newydd i berfformwyr a phobl greadigol sy’n gweithio neu eisiau gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn agored i holl aelodau Equity ar draws y DU, bydd y rhwydwaith hwn yn cynnig llwyfan i gysylltu, rhannu profiadau, a gwthio am well cyfleoedd ar gyfer gwaith Cymraeg yn y diwydiant adloniant.
Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn cynhyrchu dros £4 biliwn yn flynyddol ac yn cefnogi mwy na 80,000 o swyddi, ond mae perfformwyr a gweithwyr creadigol Cymraeg yn dal i wynebu rhwystrau i welededd a chyfleoedd. Gyda thoriadau cyllid a thirlun diwydiant sy'n esblygu, mae'n bwysicach nag erioed i sicrhau bod lleisiau'r Gymraeg yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi, ac yn cael lle i ffynnu.
Does dim digon wedi newid ers i Gwynfor Evans fynd ar streic newyn yn 1962, gan frwydro dros sianel deledu Gymraeg. Bryd hynny, roedd yn mynnu llwyfan i’r Gymraeg yn y byd cyhoeddus. Heddiw, rydym yn dal i frwydro am gydnabyddiaeth a chefnogaeth i waith Cymraeg yn y celfyddydau. Gyda dros 860,000 o siaradwyr Cymraeg a’r iaith yn dal statws swyddogol yng Nghymru, mae gwaith Cymraeg yn rhan hanfodol o’r celfyddydau, o raglennu S4C i gynyrchiadau theatr Cymraeg.
Elin Meredydd, Trefnydd Equity Cymru.
Rydym yn annog pob aelod sy’n gweithio yn Gymraeg, boed wedi’i leoli yng Nghymru neu rywle arall yn y DU, i ymuno a helpu i lunio dyfodol y rhwydwaith.
Cynhelir cyfarfodydd yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar gael i'r rhai sy'n magu hyder neu'n dysgu'r iaith.
Darganfod mwyEquity is pleased to announce the launch of the Equity Welsh Language Network, a new initiative designed to support members working through the medium of Welsh across the UK.
The network will provide a platform for professionals to connect, share experiences, and advocate for greater recognition of Welsh language work in the arts and entertainment industries.
The creative industries in Wales generate over £4 billion annually and support more than 80,000 jobs, yet Welsh language performers and creatives still face barriers to visibility and opportunity. With funding cuts and an evolving industry landscape, it's more important than ever to ensure that Welsh-language voices are heard, valued, and given space to thrive.
Not enough has changed since Gwynfor Evans went on hunger strike in 1962, fighting for a Welsh language TV channel. Back then, he was demanding a platform for the Welsh language in the public sphere. Today, we're still fighting for recognition and support for Welsh language work in the arts. With over 860,000 Welsh speakers and the language holding official status in Wales, Welsh language work is a vital part of the arts, from S4C programming to Welsh language theatre productions.
Elin Meredydd, Equity Wales Organiser.
We encourage all members working in Welsh, whether based in Wales or elsewhere in the UK, to join and help shape the network’s future.
Meetings will be held in Welsh, with translation available for those building confidence or learning the language.
Find out more