Amdanom Ni
‘Rydym yn undeb sy'n cynnwys 50,000 o berfformwyr a gweithwyr creadigol, yn unedig yn y frwydr am delerau ac amodau teg yn y gweithle.
‘Rydym yn actorion, cantorion, dawnswyr, dylunwyr, cyfarwyddwyr, rheolwyr llwyfan, pypedwyr, perfformwyr comedi, artistiaid llais a pherfformwyr adloniant ysgafn. ‘Rydym yn gweithio ar y llwyfan, ar setiau teledu, ar redfeydd modelu, mewn stiwdios ffilm, mewn stiwdios recordio, mewn clybiau nos ac mewn pebyll syrcas.
Mae Equity yn dod â gweithwyr adloniant proffesiynol at ei gilydd ac yn sicrhau bod eu galwadau yn cael eu clywed: p'un a yw'r rhain ar gyfer cyflog gweddus, gwell rheolau iechyd a diogelwch, neu fwy o gyfleoedd i bawb - waeth beth fo'u rhyw, eu hethnigrwydd, eu rhywioldeb, eu hanabledd neu eu dosbarth.
Hyd yn oed pan fydd ein haelodau'n perfformio'n unigol, nid ydynt ar eu pen eu hunain. Maent bob amser yn rhan o gymuned Equity.
Wrth i ni ddatblygu ein gwefan, bydd mwy o dudalennau ar gael yn y Gymraeg.
Ymunwch â ni!
Mae enw’r Undeb yn adnabyddus ac yn denu parch yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am y gwaith a wnawn gyda, ac ar ran, ein haelodau, sy'n gweithio ym mhob maes o'r diwydiant adloniant.
Cyfraddau a Chytundebau
Mae Equity yn trafod cytundebau gyda chyflogwyr. Darganfyddwch am gyfraddau, contractau a'r tâl a'r amodau y gallwch eu disgwyl ar unrhyw swydd benodol.
Cymorth Cyfreithiol
Mae gan holl aelodau llawn Equity yr hawl i gael cyngor cyfreithiol am ddim ynglŷn â'ch gwaith yn y diwydiant adloniant. Yn benodol, bydd Equity yn ymdrin â hawliau cyfreithiol am dorri contract a hawliau am anaf personol.
Yswiriant
Mae aelodaeth Equity yn cynnwys pecyn cynhwysfawr o yswiriant. Mae hyn yn cynnwys Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus o £10 miliwn , Yswiriant Anafiadau Damweiniol a Personol ynghyd ac Yswiriant Cefn Llwyfan.
Cynllun Pensiwn Equity
Wedi'i lansio ym 1997, mae cynllun pensiwn blaenllaw'r farchnad ar gael i'n holl aelodau, waeth beth yw eu galwedigaethau. Os ydych chi'n gweithio o dan gytundeb a gytunwyd gan Equity, gallech gael i'ch cyflogwr gyfrannu at eich pensiwn Equity.
Cymryd Rhan
Chi yw'r undeb: gyda'n gilydd, gallwn weithredu newid adeiladol, go iawn, yn y diwydiant. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch sefyll ochr yn ochr â'ch cyd-aelodau a chymryd rhan yng ngwaith Equity, o hyrwyddo ymgyrch i fynychu rali i roi eich hun ymlaen yn un o'n hetholiadau. Dysgwch fwy am sut y gallwch wella'ch byd gwaith yma.