Industrial news

Welsh National Opera chorus vote for strike action

WNO chorus have voted for industrial action by 93% in a dispute over jobs and pay.

The chorus of the Welsh National Opera (WNO) have voted for industrial action by 93% on a turnout of 100% in a dispute over jobs and pay. The chorus members, who are all members of Equity, have also voted for action short of strike. 
 
Equity is calling for meaningful talks to resolve the dispute and avoid strike action from hitting upcoming performances. Currently, WNO chorus members are facing at least a 15% cut to their pay, a reduction in contracted hours despite their high workload of performances and rehearsals, and a cut to the overall number of chorus members. Compulsory redundancies are a real threat in a chorus that is already under resourced.
 
Equity has 100% of the 30-strong WNO chorus in membership, with any potential industrial action able to cause serious disruption to performances. A majority of the chorus have been at WNO for over a decade and have never taken strike action before. 


Paul W Fleming, Equity General Secretary, said:

“This ballot result is a resounding vote of no confidence in Welsh National Opera management and shows that chorus members will not take their disastrous cuts. Our members are tired of being told to be resilient, and just get by. This is a resounding vote for resistance to management’s willing acceptance of the political choice of austerity.’
 
“WNO must go back to the drawing board on these unjust proposals and engage in a process which protects the full-time status of our members and recognises the huge value this highly skilled workforce bring to the reputation of the company and to its work.”


Claire Hampton, Equity deputy (workplace representative) and Soprano who has been in the WNO chorus for 22 years, says: 

 "My colleagues and I voted in favour of taking industrial action, reflecting our dismay at proposals to cut our salaries and contract length. This was not an easy decision for any singer to take, but we have been left with no choice as we face the devastating impact that proposed changes will have on our lives. We are committed to negotiating a new contract, however without improvements to what is already on the table we will be left with no choice but to take action to protect our jobs. This disruption can be avoided by meeting our simple and achievable demands for a full-time contract, fair treatment, adequate resources and respect for the work that we do."

"I am a mother of 3 living a very basic lifestyle, these cuts will put me just above minimum wage and this is unsustainable for me and my children. With few opportunities here in Wales to transfer my skill set it could force me out of my home and possibly out of the sector."

"I have sung since the age of 12 and been a soprano in this wonderful company for 22 years. I have taken on extensive roles and covers alongside my chorus duties. Sadly, if we do not fight for our demands, it will change the face of this renowned world class chorus and, more widely, of Welsh National Opera irreparably."

Almost 76% of the chorus say that WNO management’s proposals would have a high or significant impact on their personal finances, according to an Equity survey collected in May 2024. Meanwhile, 78% of the chorus say that they may have to leave the WNO. Such is the precarity of the chorus’ situation, that over half (56%) say they would have to leave the industry altogether, while a further third (32%) say that they may have to. 
 
In July, Musicians’ Union members in the WNO orchestra also voted overwhelmingly in favour of potential strike action over similar cuts and proposals from management. 
 
WNO management continue to cite ongoing financial difficulties caused by substantial cuts to their funding from both Arts Council England (ACE) and Arts Council of Wales (ACW). However, Equity and its members have been clear from the start. We will not accept compulsory redundancies or the desire of WNO management to make contracts ‘flexible’ solely to their own advantage, while adding the precarity of an unsustainable cut to chorus members’ basic earnings. 


Corws Opera Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio dros streic 

Mae  93%  o gorws Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol, gyda 100% or corws yn troi i fyny i bleidleisio mewn anghydfod dros swyddi a chyflogau. Yn ogystal mae aelodau'r corws, sydd i gyd yn perthyn i'r undeb celfyddydau perfformio ac adloniant Equity, wedi pleidleisio o blaid gweithredu'n fyr o streic. 
 
Mae Equity yn galw am sgyrsiau ystyrlon i ddatrys yr anghydfod ac osgoi streic yn ystod y perfformiadau sydd i ddod gan OCC. Ar hyn o bryd, mae aelodau corws OCC yn wynebu o leiaf 15% o doriad i’w cyflog, gostyngiad mewn oriau cytundebol er gwaethaf eu llwyth gwaith uchel o berfformiadau ac ymarferion, a thoriad i nifer cyffredinol aelodau’r corws. Mae diswyddiadau gorfodol yn fygythiad gwirioneddol i gorws sydd eisoes yn brin o adnoddau. 
 
Mae 100% o gorws 30 aelod OCC yn aelodau o Equity, ac mae unrhyw weithredu diwydiannol posibl yn gallu amharu'n ddifrifol ar berfformiadau. Mae mwyafrif y corws wedi bod yn OCC ers dros ddegawd ac nid ydynt erioed wedi mynd ar streic o'r blaen. 


Dywedodd Paul W Fleming, Ysgrifennydd Cyffredinol Equity:

“Mae canlyniad y balot hwn yn bleidlais ysgubol o ddiffyg hyder yn rheolaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac mae’n dangos na fydd aelodau’r corws yn derbyn y toriadau trychinebus. Mae ein haelodau wedi blino o gael cyfarfwyddyd i fod yn wydn ac i ddelio gyda’i hamgylchiadau. Mae hon yn bleidlais ysgubol dros wrthwynebiad i’r ffaith bod rheolwyr yn fodlon derbyn y dewis gwleidyddol o lymder.’ 
 
“Rhaid i reolwyr OCC ail-edrych ar y cynigion anghyfiawn hyn a chymryd rhan mewn proses sy’n diogelu statws amser llawn ein haelodau ac yn cydnabod y gwerth enfawr y mae’r gweithlu tra medrus hwn yn ei roi i enw da’r cwmni a’i waith.” 


Dywed Claire Hampton, dirprwy Equity (cynrychiolydd yn y gweithle) a Soprano sydd wedi bod yn rhan o gorws OCC ers 22 mlynedd: 
 

“Pleidleisiodd fy nghydweithwyr a minnau’n o blaid gweithredu’n ddiwydiannol, gan adlewyrchu ein siom ynghylch cynigion i dorri ein cyflogau a hyd ein cytundebau. Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i unrhyw gantores i'w gymryd, ond nid ydym wedi cael unrhyw ddewis wrth i ni wynebu'r effaith ddinistriol y bydd newidiadau arfaethedig yn ei chael ar ein bywydau. Does dim dewis ond gweithredu i amddiffyn ein swyddi. Gellir osgoi’r amhariad hwn drwy fodloni ein gofynion syml a chyraeddadwy am gontract llawn amser, triniaeth deg, adnoddau digonol a pharch at y gwaith a wnawn.” 
 
"Rwy'n fam i 3 o blant ac yn byw bywyd syml, bydd y toriadau hyn yn fy rhoi ychydig yn uwch na'r isafswm cyflog ac mae hyn yn anghynaladwy i mi a fy mhlant. Gydag ychydig o gyfleoedd yma yng Nghymru i drosglwyddo fy sgiliau gallai fy ngorfodi allan o'm cartref ac o bosib allan o’r sector.” 
 
 "Rwyf wedi canu ers yn 12 oed ac wedi bod yn soprano yn y cwmni gwych hwn ers 22 mlynedd. Rwyf wedi cymryd rolau helaeth a gan gynnwys gwaith solo ochr yn ochr â fy nyletswyddau corws. Yn anffodus, os na fyddwn yn ymladd am ein gofynion, bydd enw da byd-eang corws Opera Cenedlaethol Cymru ac enw da y cwmni yn anadferadwy." 
 
Dywed bron i 76% o’r corws y byddai cynigion rheolwyr OCC yn cael effaith sylweddol neu fawr ar eu cyllid personol, yn ôl arolwg Equity a gasglwyd ym mis Mai 2024. Yn y cyfamser, mae 78% yn dweud efallai y bydd yn rhaid iddynt adael OCC. Cymaint yw ansicrwydd sefyllfa’r corws, fel bod dros hanner (56%) yn dweud y byddai’n rhaid iddynt adael y diwydiant yn gyfan gwbl, tra bod traean arall (32%) yn dweud efallai y bydd yn rhaid iddynt wneud hynny. 
 
Ym mis Gorffennaf, pleidleisiodd aelodau Undeb y Cerddorion yng ngherddorfa OCC o blaid streicio posibl dros doriadau tebyg a chynigion gan reolwyr. 
 
Mae rheolwyr OCC yn parhau i ddyfynnu anawsterau ariannol parhaus a achosir gan doriadau sylweddol i'w cyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr (ACE) a Chyngor Celfyddydau Cymru (CCC). Fodd bynnag, mae Equity a'i aelodau wedi bod yn glir o'r dechrau. Ni fyddwn yn derbyn diswyddiadau gorfodol nac awydd rheolwyr OCC i wneud contractau yn ‘hyblyg’ er eu mantais eu hunain yn unig, tra’n ychwanegu ansicrwydd toriad anghynaladwy i enillion sylfaenol aelodau’r corws. 


Latest News