Campaign Activity

“Ni fydd Equity yn derbyn diswyddiadau gorfodol aelodau corws Opera Cenedlaethol Cymru”

Byddai cynigion Opera Cenedlaethol Cymru i newid cytundebau corws yn torri cyflogau ac yn tanseilio sicrwydd swyddi.

  • Mae OCC yn cynnig lleihau cytundebau corws llawn amser i 45 wythnos gyda thoriad cyflog o 15% y flwyddyn o leiaf
  • Cynnig arall i leihau'r corws yn bygwth diswyddiadau gorfodol
  • Bydd Equity, Undeb y celfyddydau perfformio ac adloniant sy’n cynrychioli aelodau corws OCC, “yn cadw pob opsiwn yn agored i frwydro yn erbyn ymosodiad ar gyflog ac amodau ein haelodau” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol Paul W Fleming

Equity yn ymateb i doriadau corws Opera Cenedlaethol Cymru:

Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), ers peth amser, wedi bod yn bygwth rhoi cytundebau gyda chynigion diwygiedig i aelodau Equity yng nghorws OCC. Mae’r undeb wastad wedi aros yn feddwl agored i’r broses hon ac yn credu, er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol a wynebodd y cwmni, y byddent yn gwarchod y corws fel rhan annatod o’r hyn y mae OCC yn ei ddisgrifio fel “asgwrn cefn cerddorol ac artistig Opera Cenedlaethol Cymru”.

Fodd bynnag, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae cynigion didraidd ar gyfer newidiadau i delerau ac amodau ein haelodau wedi'u cyflwyno. Newidiadau a fyddai’n tanseilio sicrwydd swyddi y corws proffesiynol tra medrus hwn.

Fel y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer y gerddorfa, mae rheolwyr OCC yn edrych i leihau cytundebau amser llawn presennol ein haelodau i 45 wythnos. Byddai hyn yn arwain at ostyngiad amcangyfrifedig yn y cyflog sylfaenol o 15% y flwyddyn o leiaf. Yn ogystal, maent yn ceisio lleihau ac ail-gydbwyso maint y corws, sydd eisoes yn brin o adnoddau, gyda phroses na all ond arwain at fygythiad gwirioneddol o ddiswyddo gorfodol.

Angen datrysiad ariannu tymor hir

Mae rheolwyr OCC yn dyfynnu anawsterau ariannol parhaus a achosir gan doriadau sylweddol i'w cyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr (ACE) a Chyngor Celfyddydau Cymru (CCC). Mae’r penderfyniadau ôl-radd hyn eisoes wedi gweld gostyngiad mewn allbwn gydag wythnosau teithiol yn cael eu colli yn Lerpwl, Llandudno, a Bryste. Teithio yw enaid y cwmni. Mae lleihau’r allbwn am leihau’r elw ac yn tanseilio'n ddifrifol genhadaeth ddatganedig OCC i ddod ag opera i gynulleidfa mor eang â phosibl.

Rhaid dod o hyd i ateb ar gyfer y cyllid hirdymor o Gymru a Lloegr.

Ni fyddwn yn derbyn diswyddiadau gorfodol.

Ni fydd Equity yn derbyn diswyddiadau gorfodol nac awydd rheolwyr OCC i wneud contractau yn ‘hyblyg’ er eu mantais eu hunain yn unig, tra’n ychwanegu ansicrwydd toriad anghynaladwy i enillion sylfaenol aelodau’r corws. Ni all, ac ni fydd gwrthwynebiad Equity i’r cynigion presennol yn ddibynnol ar benderfyniadau cyllidwyr.

Beth allwch chi ei wneud

Rydym yn gofyn i aelodau Equity, a’r cyhoedd yn gyffredinol, ysgrifennu at eu gwleidyddion yn y Senedd ac yn San Steffan i ofyn iddynt atal y toriadau i gyllid y celfyddydau, ac yn benodol i opera. Os ydi’r traddodiad Cymreig o ganu neu dyfodol opera OCC o bwys i chi, rydym am i chi gyflwyno'r achos i #ACHUBOCC

Dywed Dirprwy Bwyllgor Equity a Chorws OCC (sy’n cynnwys aelodau Equity sy’n gweithio yn OCC):

“Mae’r cynnig i leihau ein statws llawn amser i’w weld yn wirioneddol ddi-hid er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol sydd ar y cwmni. Yn y pen draw, rydyn ni’n credu bydd yn cael effaith niweidiol ar allu’r cwmni i recriwtio a chadw corws yn y dyfodol. Fydd hyn yn y pendraw yn niwedidio gallu’r cwmni i gyflawni ei weledigaeth am ansawdd artistig drwy ymchwil digyfaddawd i’r gelfyddyd.”

“Mae ansawdd a rhagoriaeth OCC yn rhan hanfodol o dirwedd ddiwylliannol ac enw da Cymru a’r DU ledled y byd, ac ar gryfder y corws y sefydlwyd enw da OCC bron i 80 mlynedd yn ôl. Adeiladwyd y corws o gymunedau Cymru a’r llu o bobl ymroddedig. Mae’r cwmni wedi goroesi hyd heddiw oherwydd eu hangerdd nhw i frwydro i’w gynnal. a dyna pam rydyn ni’n gofyn i chi #ACHUBOCC.”

Dywedodd Paul W Fleming, Ysgrifennydd Cyffredinol Equity:

“Mae bwlch sylweddol rhwng barn y gweithlu a barn y cyllidwyr ynglŷn â phwy y mae opera’n perthyn. Gwyddom y dylai opera fod i bawb – fel ffurf ar gelfyddyd ac fel dewis gyrfa. Mae angen i gynghorau celfyddydau Cymru a Lloegr gamu i'r adwy i ddatrys yr argyfwng ariannu hwn, tra bod OCC yn mynd yn ôl i ail edrych ar y cynigion anghyfiawn hyn. Rhaid i’r cyllidwyr a’r penaethiaid wybod: Bydd Equity yn cadw pob opsiwn yn agored i frwydro yn erbyn ymosodiad ar gyflog ac amodau ein haelodau.”

Meddai Simon Curtis, Swyddog Cenedlaethol a Rhanbarthol Equity ar gyfer Cymru a De-orllewin Lloegr:

“Yn hytrach na dyfodol opera yng Nghymru yn un o swyddi cyflog isel a chontractau tymor penodol byrrach ansicr,

“Mae angen i ni gydnabod effeithiau cadarnhaol ehangach y diwydiant ac OCC a pheidio derbyn swyddi cyflog isel a chytundebau byr dymor ansicir. Mae diwydiant y celfyddydau perfformio ac adloniant yn meithrin datblygiad economaidd lleol, cynhwysiant cymdeithasol, addysg a sgiliau, twristiaeth, lles corfforol a meddyliol, ac yn cryfhau enw da byd-eang ein gwlad. Mae adolygiadau strategol o weithrediadau’r cwmni dros nifer o flynyddoedd, gyda’r Cyngor Celfyddydau yn dyst i hynny, wedi dod i’r casgliad erioed bod cynnal corws a cherddorfa llawn amser OCC, gyda’u hansawdd a’u cyfraniad i’r dirwedd artistig yn ganolog i gynnal yr ecosystem honno”

#AchubOCC

#SaveOurWNO


Latest News