Industrial news

Equity to ballot Welsh National Opera members for strike action

Members of the Chorus of WNO are being balloted for industrial action over pay and redundancies.

Members of the Chorus of Welsh National Opera (WNO) are being balloted for industrial action in a dispute over proposals to cut their pay by at least 15% and to reduce and rebalance the size of the chorus, already under resourced, with a process which will lead to a real threat of compulsory redundancy. 

Equity delivered the notification of intent to ballot to WNO Management last week. Ballot papers were dispatched yesterday and the ballot will run until the 4th September. 

WNO management continue to cite ongoing financial difficulties caused by substantial cuts to their funding from both Arts Council England (ACE) and Arts Council of Wales (ACW). However, Equity and its members have been clear from the start. We will not accept compulsory redundancies or the desire of WNO management to make contracts ‘flexible’ solely to their own advantage, while adding the precarity of an unsustainable cut to chorus members’ basic earnings. Our resistance to the current proposals cannot, and will not, be contingent on the decisions of funders. 

WNO must go back to the drawing board on these unjust proposals and engage on a process which protects the full-time status of our members and recognises the huge value this highly skilled workforce bring to the reputation of the company and to its work. 

Commenting Simon Curtis, Equity’s National and Regional Official for Wales and South West England said: “WNO Management seem intent on pushing through these changes at speed under the misguided impression that this will, in some way, allow our members the opportunity to maximise the possibility of other employment.

"These proposals, however, are unsustainable for our members and potentially catastrophic for the sector more more widely in the UK. Almost 80% of our members working at WNO said it would have a high or significant impact on their personal finances, with 78% of them saying they may have to leave WNO and in addition over half (56%) say they would have to leave the industry altogether, with a further third (32%) saying that they may have to, such is the precarity of their situation. 

"As their union we will keep all options open to fight an attack on our members livelihoods.”


#SaveOurWNO
#AchubOCC

Equity yn cynnal pleidlais i aelodau corws Opera Cenedlaethol Cymru gyda’r bwriad i fynd ar streic

Mae aelodau o gorws Opera Cenedlaethol Cymru (OCC / WNO) yn cynnal pleidlais dros weithredu diwydiannol mewn anghydfod ynghylch cynigion i dorri o leiaf 15% ar eu cyflog ac i leihau ac ail-gydbwyso maint y corws, sydd eisoes yn brin o adnoddau, gyda phroses. a fydd yn arwain at fygythiad gwirioneddol o ddiswyddo gorfodol.

Cyflwynodd Equity yr hysbysiad o fwriad i gynnal pleidlais i Reolwyr WNO yr wythnos diwethaf. Mae’r bleidlais yn cychwyn yr wythnos hon, gyda’r aelodau’n derbyn eu pleidleisiau drwy’r post o heddiw ymlaen, a bydd yn rhedeg hyd at y 4ydd o Fedi.

Mae rheolwyr WNO yn parhau i ddyfynnu anawsterau ariannol parhaus a achosir gan doriadau sylweddol i'w cyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr (ACE) a Chyngor Celfyddydau Cymru (CCC). Fodd bynnag, mae Equity a'i aelodau wedi bod yn glir o'r dechrau. Ni fyddwn yn derbyn diswyddiadau gorfodol nac awydd rheolwyr WNO i wneud contractau yn ‘hyblyg’ er eu mantais eu hunain yn unig, tra’n ychwanegu ansicrwydd toriad anghynaladwy i enillion sylfaenol aelodau’r corws. Ni all, ac ni fydd, ein gwrthwynebiad i'r cynigion presennol yn dibynnu ar benderfyniadau cyllidwyr.

Rhaid i WNO ail drafod y cynigion anghyfiawn hyn a chymryd rhan mewn proses sy'n diogelu statws gweithio llawn amser ein haelodau ac sy'n cydnabod y gwerth enfawr y mae'r gweithlu tra medrus hwn yn ei roi i enw da'r cwmni a'i waith.

Meddai Simon Curtis, Swyddog Cenedlaethol a Rhanbarthol Equity ar gyfer Cymru a De-orllewin Lloegr:“Mae'n ymddangos bod rheolwyr WNO yn awyddus i wthio'r newidiadau hyn ymlaen yn gyflym o dan yr argraff gyfeiliornus y bydd hyn, mewn rhyw ffordd, yn rhoi'r cyfle i'n haelodau wneud y gorau o'r posibilrwydd o gyflogaeth arall. Fodd bynnag, nid yw’r cynigion hyn yn gynaliadwy i’n haelodau ac o bosibl yn drychinebus i’r sector ehangach yn y DU. Dywedodd bron i 80% ohonyn nhw y byddai’n cael effaith uchel neu sylweddol ar eu harian personol, gyda 78% ohonyn nhw’n dweud efallai y bydd rhaid iddyn nhw adael WNO. Cymaint yw ansicrwydd eu sefyllfa, mae dros hanner (56%) yn dweud y byddai’n rhaid iddynt adael y diwydiant yn gyfan gwbl, tra bod traean arall (32%) yn dweud y gallai fod yn rhaid iddynt wneud hynny.

"Fel eu hundeb byddwn yn cadw pob opsiwn yn agored i frwydro yn erbyn ymosodiad ar fywoliaeth ein haelodau.”

#SaveOurWNO

#AchubOCC


Latest News